Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol

Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2015 6.00pm

Cadeirydd: Russell George AC

Trafodaeth ar Gyflymu Cymru gydag Ed Hunt, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, ac Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru,

Yr Aelodau a oedd yn bresennol:

Alun Ffred Jones AC (Arfon)

Janet Haworth AC (Gogledd Cymru)

Elin Jones AC (Ceredigion)

Julie James AC (Gorllewin Abertawe)

Cynrychiolwyr eraill

Rhodri Williams, Cyfarwyddwr, Cymru - Ofcom

Elinor Williams - Rheolwr Materion Rheoleiddio  - Ofcom

Nia Thomas - Ymgynghorydd Materion Rheoleiddio – Ofcom

 

Croesawodd Russell George AC, Cadeirydd y Grŵp, bawb i’r cyfarfod a chyflwynodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT yng Nghymru, ac Ed Hunt, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyflymu Cymru. Rhoddodd Alwen Williams gyflwyniad byr a chroesawodd Nick Vaughan, Pennaeth Materion Cyhoeddus Openreach. Cyfeiriodd Alwen Williams at effaith economaidd BT yng Nghymru, gyda gwariant o oddeutu £213 miliwn y flwyddyn gyda chyflenwyr lleol.

Rhoddodd Ed Hunt adroddiad cynnydd ar gyflwyno’r rhaglen Cyflymu Cymru hyd yma. Nododd fod y broses o gyflwyno wedi cyrraedd dros 521,000 eiddo yng Nghymru a bod rhagor o gartrefi bellach yn cael eu cysylltu â’r rhyngrwyd drwy osod ffibr i’r eiddo (FTTP). Fodd bynnag, pwysleisiodd y gall FTTP fod yn gostus ac yn aml mae’n ofynnol gwneud gwaith peirianyddol cymhleth mewn cysylltiad ag ef, nad yw’n darparu ateb syml mewn sawl rhan o Gymru.  Dangoswyd y mannau lle y mae’r gwaith eto i’w gwblhau ar fap o Gymru.

Gofynnodd Elin Jones AC am wybodaeth benodol am gyflwyno Cyflymu Cymru yn ei hetholaeth hi yng Ngheredigion. Nododd fod y broses o gyflwyno wedi cyrraedd 50% yng Ngheredigion a holodd sut y mae’r rhaglen am gyrraedd ei tharged o 96% erbyn 2016. Cadarnhaodd Ed Hunt fod y targed wedi’i ymestyn hyd at haf 2017 a bod y rhaglen ar y trywydd iawn i gyrraedd hynny. Mewn ymateb i gwestiwn Elin Jones, nododd Julie James AC y gall rhai rhannau o Geredigion ddod o fewn y 4% olaf yng Nghymru i gael y gwasanaeth. Yn ogystal â hyn, cytunodd i roi canran y cynnydd o ran cyflwyno Cyflymu Cymru yng Ngheredigion ac ar draws Cymru dros y misoedd nesaf i Elin Jones. CAM I’W GYMRYD: JJ

Cyfeiriodd Ed Hunt y Grŵp at y gwirydd cod post newydd a gaiff ei lansio cyn bo hir ar wefan Cyflymu Cymru. Nododd sut y bydd y cyfleuster newydd yn rhoi cyfle i gwsmeriaid  ganfod a yw eu safle o fewn cwmpas y rhaglen ai peidio, a bod gwybodaeth ynghylch yr opsiynau eraill o gael band eang, fel gwneud cais i’r cynllun Mynediad at Fand Eang Cymru hefyd yn cael ei darparu. Yn ogystal, nododd fod Facebook bellach y dull gorau ar gyfer cyfathrebu o ran y prosiect Cyflymu Cymru.

Gofynnodd Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Ofcom Cymru a oedd gan Ed Hunt unrhyw syniad pryd y byddai cam olaf y gwaith cynllunio ar gyfer y rhaglen yn cael ei gwblhau. Dywedodd y byddai’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i bobl Cymru ddod i wybod a fyddant yn cael band eang o dan y cynllun. Dywedodd Ed Hunt y byddai’n rhoi gwybod i’r Grŵp beth fyddai’r dyddiad amcangyfrifedig ar ôl diwedd y cyfnod cynllunio. CAM I’W GYMRYD: EH

Nodwyd pryder am y ffaith bod datblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu heb i ddatblygwyr orfod gosod y dwythellau sy’n ofynnol  i gyflwyno band eang cyflym iawn. Dywedodd Julie James AC y byddai’n cefnogi unrhyw newidiadau i’r rheoliadau i orfodi hyn. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno’r band eang USO .

Yn olaf, roedd y Grŵp yn gwybod am y treialon technoleg band eang G.fast sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Abertawe i ddarparu cyflymder o fwy na 300Mbps.

 Ar ddiwedd y cyfarfod, dosbarthodd Elinor Williams a Nia Thomas o Ofcom gopïau o’r rhifyn mis Tachwedd y cylchlythyr AM.com. Mae’r cylchlythyr yn hysbysu Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid eraill am ddatblygiadau diweddar Ofcom.

Daeth y cyfarfod i ben am 7.00pm